Nodiadau cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Olwg, 8 Hydref, 2014

Ystafell fideo-gynadledda (llawr cyntaf), Tŷ Hywel

 

Yn bresennol:

Sandy Mewies AC (Cadeirydd), Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru), Catrin Edwards (Sense Cymru), Ceri Jackson (RNIB Cymru), Jonathan Mudd (Cŵn Tywys), Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion), Lisa Turnbull (y Coleg Nyrsio Brenhinol), Janet Finch-Saunders (AC), Eluned Parrott (AC), Jocelyn Davies (AC), Tess Saunders (RNIB Cymru).

 

Ymddiheuriadau

Julie Thomas (BridgeVis), Rhodri Glyn Thomas (AC), Alun Roberts (WROF).

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Enwebwyd Sandy Mewies fel Cadeirydd y grŵp gan Janet Finch-Saunders, a phleidleisiwyd drosti. Enwebwyd Tess Saunders (RNIB Cymru) yn Ysgrifennydd gan SM, a chafodd ei hethol.

 

Nododd y grŵp gyfraniad Alex McMillan fel yr Ysgrifennydd blaenorol.

 

Camau i’w cymryd:

TS i ddrafftio llythyr o ddiolch i Alex McMillan, i’w lofnodi gan aelodau’r grŵp.

 

Lansio Strategaeth Gweithredu Strategaeth Golwg Cymru

Cyflwynodd Ceri Jackson y Cynllun Gweithredu newydd Strategaeth Golwg Cymru ar gyfer 2014-2018, gan amlygu ei fod wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad ag ystod eang o randdeiliaid (fel y rhestrir ar dud 2 o’r adroddiad). Esboniodd Ceri y bydd system adrodd gadarn ar ffurf goleuadau traffig ar waith i fonitro ei weithrediad, ac mai’r bwriad fydd dod â heriau i’r grŵp.

·        Esboniodd SM y bydd derbyniad yn y Senedd ar 12 Mai i drafod y Strategaeth Golwg, a bod y Gweinidog wedi cytuno i fod yn bresennol

·        Pwysleisiodd EP bod angen sicrhau bod y system goleuadau traffig yn mesur y pethau iawn, a gofynnodd a fyddai system debyg hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer y Cynllun Cyflawn Gofal Iechyd y Llygaid. Esboniodd CJ fod y ffyrdd o fonitro’r Cynllun Cyflawni Gofal Iechyd y Llygaid yn dal i gael ei drafod, ond pwysleisiodd y byddai’r sector yn craffu’n agos ar ddulliau adrodd ar hyn i sicrhau bod cynnydd yn digwydd.

·        Cytunwyd y byddai siart syml sy’n rhoi braslun o’r gwaith sy’n digwydd fel rhan o’r Cynllun Gofal Iechyd y Llygaid yn ddefnyddiol e.e. gwybodaeth am weithgorau, eu cylch gwaith ac unrhyw gynnydd a wneir.

·        Gofynnodd Lisa Turnbull, fel rhan o waith y Strategaeth Golwg, a allai cyfle godi i drafod rôl nyrsys offthalmig, gan y byddai gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ddiddordeb mewn gwneud hyn. Cytunwyd y byddai hyn o ddiddordeb.

 

Camau i’w cymryd:

Owen Williams i ddosbarthu crynodeb byr ar y gwaith a wneir fel rhan o’r Cynllun Gofal Iechyd y Llygaid i aelodau’r grŵp.

Ceri Jackson i siarad â’r Coleg Nyrsio Brenhinol am rôl nyrsys mewn gofal llygaid.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ganllawiau Teithio Byw yn dilyn gohebiaeth gan y Gweinidog.

Dywedodd PJ, yn dilyn y llythyr grwpiau, mae’r grŵp Cŵn Tywys bellach wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddai’r newidiadau a awgrymwyd yn cael eu cynnwys yn y Canllawiau. Mae’r grŵp Cŵn Tywys yn falch am y canlyniad hwn, ond y bydd y prawf gwirioneddol yn y modd y caiff y canllawiau eu rhoi ar waith.

 

Adroddodd EP am gynllun gofod rhanedig newydd ym Mro Morgannwg, sydd wedi cael ei roi ar waith yn wael.

 

Camau i’w cymryd:

PJ i ymchwilio i gynllun Bro Morgannwg gyda rhagor o wybodaeth gan EP.

 

Unrhyw fater arall

Amlygodd CE fod Action on Hearing Loss, RNIB Cymru a Sense Cymru ar hyn o bryd yn gofyn am adborth gan eu haelodau am effaith y safonau gofal iechyd hygyrch.

 

Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd bod amser cinio dydd Mercher yn amser cyfleus ar gyfer cynnal y cyfarfodydd. TS i gysylltu â’r Cadeirydd i bennu dyddiadau ar gyfer y dyfodol.